DOGFENNAU YMGYNGHORI CYN YMGEISIO

Mae eich adborth ar ein cynigion ar gyfer Parc Ynni Mynydd Tŷ Talwyn yn bwysig i ni, ac yn ein helpu i lunio’r prosiect.

Rydyn ni, yn Galileo Empower, yn credu’n gryf bod angen deialog barhaus ynghylch ein prosiectau, a’u datblygu mewn partneriaeth agos â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Trwy ymgynghori ystyrlon ac effeithiol cyn ymgeisio (YCY), bydd Galileo Empower yn rhoi cyfleoedd i gymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill gyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r prosiect.

Bydd hyn yn cynnwys ystyried y sylwadau a ddaw i law er mwyn datblygu’r cynigion cyn cyflwyno ein cais i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PACA).

Ymgynghori Cyn Ymgeisio

Gan fod Parc Ynni Mynydd Tŷ Talwyn yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) – am ei fod yn gais cynllunio ar gyfer prosiect seilwaith mawr o bwysigrwydd cenedlaethol – bydd proses y cais cynllunio yn cael ei hystyried gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PACA), ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio rhwng 26 Ebrill ac 8 Mehefin 2025. Dyma’r ymgynghoriad olaf cyn i ni gyflwyno ein cynlluniau i PACA yn ddiweddarach eleni.

Rydyn ni’n cynnal tri digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb, lle gallwch weld sut mae’r prosiect wedi datblygu, gweld drafft o’n cais cynllunio, cwrdd â thîm y prosiect, a rhannu eich barn:

  • Cefn Cribwr Athletic Club, CF32 0BA: 29th Ebril 2025, 4pm – 8pm 
  • Llangynwyd Village Hall, CF34 9SW: 30th Ebril 2025, 11:30am – 2:30pm
  • Coytrahen Community Centre, CF32 0EB: 30th Ebril 2025, 4:30-8:30pm

Fel arall, os na allwch ddod i un o’n digwyddiadau, gallwch gwblhau ein furflen adborth.

furflen adborth EXHIBITION BANNERS

I ofyn am gopi o wybodaeth yr arddangosfa ar ôl yr arddangosfeydd cyhoeddus neu i siarad ag aelod o’n tîm, cysylltwch â:

Cliciwch yma i gael mynediad at ddogfennau’r prosiect

  • mtt@galileoempower.uk
  • 0330 363 6229
  • FREEPOST MYNYDD TY-TALYWN (nid oes angen stamp na chyfeiriad mwy manwl)

Mae’n bwysig nodi nad yw sylwadau a wneir i Galileo Empower (yr Ymgeisydd) yn sylwadau i Weinidogion Cymru. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar y cais ar ôl iddo gael ei gyflwyno i PACA.

Bydd gwybodaeth yn cael storio a’i defnyddio yn unol â GDPR a Deddf Diogelu Data 2018. Noder: Ni fydd yr adborth a’r sylwadau ar y ffurflen hon yn gynrychiolaeth ffurfiol ar y cais. Gellir cyflwyno sylwadau i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ar ôl cyflwyno cais. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu gan Quatro Public Relations Ltd. ar ran Galileo; bydd yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac ni chaiff ei defnyddio i’ch adnabod yn bersonol. Bydd eich manylion yn cael eu cyflwyno i PCAC ynghyd ag Adroddiad PAC y cais. Bydd hyn yn galluogi PCAC i gysylltu â chi os yw’r cais dan sylw yn cael ei dderbyn i’w archwilio.

DOGFENNAU YMGYNGHORI CYN YMGEISIO

Dogfennau’r Prosiect

Gallwch weld yr holl ddogfennau cais cynllunio drafft rydyn ni’n eu cyflwyno, fel rhan o’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni’n uniongyrchol ar mtt@galileoempower.uk neu ar 0330 363 6229.

Dogfennau eraill

Adroddiad cwmpasu

Dogfennau Ymgynghoriad Anffurfiol 2023

Byrddau Ymgynghori 2023 Delweddiadau 2023 Lleoliadau lle gellir gweld yr ardal dan sylw 2023 Cynllun Dangosol 2023