Croeso i’n gwefan ar gyfer Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn

Mae Galileo Empower yn datblygu cynigion ar gyfer Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn, sydd wedi’i leoli 4km i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr ac 8km i’r dwyrain o Bort Talbot.

Gwnaethom gynnal ymgynghoriadau cynnar ar y cynigion yn hydref 2023 ac ymgynghoriad cyn ymgeisio yng ngwanwyn 2025, sydd wedi helpu i lunio’r fersiwn ddiweddaraf o’r cynlluniau.

Rydym wedi diwygio ein cynigion yn dilyn adborth gan drigolion lleol ac o ganlyniad i arolygon ac astudiaethau safle.

Rydym wedi cyflwyno ein Cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i PEDW.

Mae’r cynigion bellach yn cynnwys:

  • 6 tyrbin gwynt gydag uchder mwyaf i flaen y llafn o 200m, yn cynhyrchu 43 Megawat (MW) o ynni; a
  • 50MW o baneli solar ffotofoltäig (PV) ar y llawr.

Yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at ddatgarboneiddio ein system drydan, rydym wedi ymrwymo i ddarparu buddion sylweddol i gymunedau lleol drwy gronfeydd cyfoeth cymunedol, cyfleoedd cyflogaeth a busnes lleol, cyfran gymunedol yn y Parc Ynni, a’r cyfle i gael biliau ynni is i’r rhai sy’n byw agosaf at y prosiect.

Gweler yr adrannau isod am ragor o fanylion am y prosiect, sut i weld dogfennau’r cais a chyflwyno sylwadau i PEDW.

Lleoliad y Safle……

diweddaru 16/04/25

Atgynhyrchwyd o ddata map digidol yr Arolwg Ordnans @Hawlfraint y Goron 2022. Cedwir pob hawl. Rhif y drwydded 0100031673

Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais – Gwanwyn 2025

Roedd y cyfnod Ymgynghori Cyn Gwneud Cais rhwng 26 Ebrill ac 8 Mehefin 2025.

Dyma oedd yr ymgynghoriad olaf cyn i ni gyflwyno ein cynlluniau i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru (PEDW).

Yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf ar-lein, cynhaliwyd tri digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb, gan ddangos sut mae’r prosiect wedi datblygu ochr yn ochr â’n cais cynllunio drafft, rhoi cyfle i gwrdd â’n tîm prosiect, a rhannu adborth. Bwydodd yr adborth hwn i mewn i’n cynigion terfynol, a gyflwynir isod.

Cyflwyniad DNS – Awst 2026

Mae’r cais DNS wedi’i gyflwyno i PEDW, a chafodd ei ddilysu ar 26 Awst 2026. Bydd y broses ymgynghori 5 wythnos yn rhedeg tan 2 Hydref 2026.

Mae dogfennau’r cais ar gael i’w gweld ar wefan y prosiect ac ar wefan Llywodraeth Cymru (Cyfeirnod: DNS CAS-03018-G7G6H7), yn unol â’r dolenni isod.

Dylid gwneud pob sylw ar y cynigion yn uniongyrchol i PEDW, yn hytrach nag i dîm y prosiect, fodd bynnag, rydym yn hapus i drafod y prosiect ymhellach os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Dolen i'r cais DNS Dolen i Ddogfennau'r Cais

Y PROSIECT A GYNIGIR

Ynni adnewyddadwy – mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a darparu ynni cartref.

Mae’r cynnig ar gyfer Parc Ynni Mynydd Tŷ Talwyn yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2019. Bydd y Parc Ynni hefyd yn helpu’r DU i drosglwyddo i adnoddau ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Bydd datblygu’r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y tir yn cyflawni rôl allweddol yn yr ymdrech i sicrhau diogelwch ynni, drwy leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi’i fewnforio ac sydd wedi arwain at gynnydd enfawr mewn biliau ynni dros y blynyddoedd diwethaf.

I gyrraedd y targedau sero net sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru, mae angen i Gymru gynhyrchu bedair gwaith mwy o ynni gwynt o ffynonellau ar y tir ac ar y môr dros y degawd nesaf.

Gyda disgwyl i’r galw am drydan ddyblu erbyn 2050, bydd cynhyrchu ynni adnewyddadwy trwy wynt a solar yn sicrhau bod y galw hwn yn cael ei ateb. Gwynt ar y tir a phaneli solar ffotofoltäig yw’r ffyrdd newydd rhataf o gynhyrchu trydan yn y DU, ac maen nhw eisoes yn gwneud cyfraniad pwysig i’r cyfuniad ynni adnewyddadwy.

Bydd ynni glân yn hybu ein diogelwch ynni yn y dyfodol, yn darparu trydan rhatach, fydd yn lleddfu costau byw, yn rhoi hwb i gystadleurwydd busnesau a chadwyni cyflenwi yng Nghymru ac yn cefnogi miloedd o swyddi ledled y wlad.

FFEITHIAU A FFIGURAU

MANYLION

Y LLINELL AMSER A FWRIEDIR

  1. Dechreuwyd ein harolygon amgylcheddol, technegol a pheirianegol yn gynnar yn 2021
    2021 – 2025

  2. Cyflwyno Cais Cwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol i PACA Roedd hwn yn nodi cwmpas a lefel manylder y wybodaeth i’w darparu yn y Datganiad Amgylcheddol
    Rhagfyr 2023

  3. CYmgynghoriad cymunedol ar gynlluniau dangosol cynnar
    Hydref 2023

  4. ~ Ystyried adborth, cynnal rhagor o arolygon a mireinio dyluniad cychwynnol y Safle.
    ~ Dechrau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
    2024 – 2025

  5. ~ Cais cynllunio drafft, sy’n ystyried adborth ymgynghori blaenorol, a chanlyniadau pellach ein hastudiaethau manwl.
    ~ Gwnaethom ymgynghori ar y cynlluniau am chwe wythnos a diweddaru cynigion yn seiliedig ar adborth.
    26 Ebrill – 8 Mehefin 2025

  6. ~ Gwnaethom gyflwyno ein cais i PEDW gydag Adroddiad Ymgynghori a oedd yn cynnwys gwybodaeth a gawsom gan PAC.
    ~ Adolygodd a dilysodd PEDW y cais.
    Cyflwynwyd ym mis Tachwedd 2025, Dilyswyd ym mis Awst 2026

  7. Lle rydyn ni nawr

    ~ Mae Arolygydd wedi’i benodi i archwilio’r cais a’r sylwadau
    ~ Bydd gan ymgyngoreion a’r gymuned leol bum wythnos i gyflwyno eu sylwadau ar y cynlluniau i PEDW.
    Ymgynghoriad 28 Awst – 2 Hydref 2026
    ~ Gall yr Arolygydd gynnal gwrandawiadau neu ofyn am gynrychioliadau ychwanegol.

  8. ~ Bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer Gweinidogion Cymru, yn argymell a ddylid rhoi caniatâd cynllunio
    ~ Bydd gan y Gweinidog 12 wythnos i wneud penderfyniad terfynol
    I’w gadarnhau

*Nod y Cais Cwmpasu EIA yw ceisio pennu cwmpas a lefel yr wybodaeth y mae angen ei darparu yn adroddiad yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) a fydd yn cyd-fynd â’r Cais DNS.

CYNNIG GALILEO I’R GYMUNED

Mae Galileo Empower yn ymrwymedig at ddatblygu prosiectau sydd o fudd uniongyrchol a hirdymor i’r ardal leol, gan feithrin cysylltiadau cymunedol cryf a sicrhau dyfodol gwyrdd a chynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.

Os caiff y cais ei dderbyn, bydd cyllid sylweddol yn cael ei ddosbarthu gan Galileo Empower i gymunedau lleol am oes y Parc Ynni, gan eu galluogi i rannu buddion y prosiect.

Mae’r cyllido hwn yn wirfoddol ac ar wahân i’r broses gynllunio, ac mae ganddo’r potensial i greu buddion hirdymor sylweddol. Rydyn ni’n gweithredu mewn ffyrdd sydd wedi eu teilwra’n briodol i wahanol sefyllfaoedd ac rydyn ni’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol i ddeall y blaenoriaethau, yr anghenion a’r prosiectau yr hoffai cymunedau i’r datblygiad eu cefnogi yn yr ardal leol.

Bydd ein agwedd gyfrifol at ddatblygu prosiectau yn sicrhau bod Parc Ynni Mynydd Tŷ Talwyn yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy’n ystyriol o’n cymdogion, yr amgylchedd gerllaw, a chymunedau lleol.

Byddwn yn:

  • Ymrwymo i gynnig cronfa gyfoeth cymunedol gwerth £5,000 fesul pob MW o’r capasiti ynni gwynt bob blwyddyn, gydag indecs gyswllt ar gyfer oes weithredol y fferm wynt. Byddai hyn yn werth hyd at £215,000 y flwyddyn, sy’n cyfateb i gronfa o dros £10 miliwn dros oes weithredol 50 mlynedd y prosiect. Bydd y swm terfynol yn fwy gan fod y gronfa’n gysylltiedig â chwyddiant, a bydd y ffigurau terfynol yn cael eu cadarnhau wedi i ddyluniad y Parc Ynni gael ei bennu’n derfynol.
  • Archwilio’r posibilrwydd o greu cynllun disgownt ar gyfer trydan adnewyddadwy (REDS) i sicrhau gostyngiad blynyddol ar filiau trydan y bobl sy’n byw agosaf at y Parc Ynni.
  • Cynnig rhannu perchnogaeth hyd at 10% i gymunedau lleol – lle gellir defnyddio’r elw a gynhyrchir gan gyfran berchnogaeth er budd iddyn nhw yn y tymor hir.
  • Cynnig cronfa adeiladu gymunedol i grwpiau a sefydliadau lleol o ddechrau’r gwaith adeiladu nes i’r Parc Ynni ddechrau gweithredu. Nod hyn fydd helpu i wrthbwyso unrhyw anghyfleustra a allai gael ei achosi yn ystod y cyfnod adeiladu.
  • Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi leol yn ein helpu i gyflawni’r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect hwn. Os ydych chi’n fusnes lleol ac yn dymuno gwybod mwy am y cyfleoedd sy’n deillio o’r datblygiad, cofrestrwch drwy ein porth contractwyr lleol yma.
contractwyr lleol ffurf

Rhagor o wybodaeth

I drafod Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn yn fwy manwl, cysylltwch â ni:

Leslie Walker | Project Manager
Email: MTT@galileoempower.uk
Phone: 0330 363 6229
Post: Freepost MYNYDD TY-TALWYN
Web: galileoempower.uk

Mae Galileo Empower yn ddatblygwr, perchennog a gweithredwr ynni adnewyddadwy pan-Ewropeaidd, aml-dechnoleg, sy’n tyfu’n gyflym, gyda chenhadaeth i gyfrannu’n sylweddol at gyflawni targedau lleihau allyriadau byd-eang.

Ein nod yw gwneud hyn trwy ddatblygu digon o brosiectau ynni gwyrdd clyfar, effeithlon, o ansawdd uchel ac integredig, fel bod ynni adnewyddadwy yn dod yn brif ffynhonnell trydan i bob defnyddiwr ynni yn Ewrop. Mae nifer o brosiectau Galileo Empower yn cael eu datblygu, yng Nghymru a’r Alban.

Mae tîm prosiectau Caerdydd wedi ymrwymo i ddatblygu prosiectau sy’n creu buddion sylweddol a diriaethol yn lleol ac yn meithrin cysylltiadau cymunedol cryf.

Mae ein uwch dîm rheoli yn cynnwys arbenigwyr ynni a buddsoddi blaenllaw sydd â degawdau o brofiad rhyngwladol mewn mwy na deg ar hugain o farchnadoedd.

Mae cyllidwyr Galileo Empower yn gronfeydd seilwaith a phensiwn gydag ôl troed byd-eang, meddylfryd rhyngwladol a meddylfryd cydweithredol.

Galileo Empower yn y Gymuned

Yn ogystal â darparu pŵer glân, mae Galileo Empower am i Barc Ynni Mynydd Tŷ Talwyn fod yn ychwanegiad cadarnhaol i’r ardal leol.

Ar hyn o bryd rydym yn noddi Clwb Pêl-droed Cefn Cribwr.