Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn

Byddai Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn, a gynigiwyd gan gwmni ynni adnewyddadwy Galileo, wedi’i leoli ar dir sydd tua 4 cilometr i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr ac 8 cilometr i’r dwyrain o Bort Talbot yn y De.

Yn cynnwys hyd at 10 tyrbin gwynt, bydd gan yr elfen fferm wynt gapasiti gosodedig o tua 65 Mega-Watt (MW) a byddai gan bob tyrbin gwynt uchder llafn o hyd at 230m. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys ynni solar ar y llawr a system storio ynni batri.

Wedi’i leoli ar y ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, mae safle Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn yn elwa ar adnodd gwynt rhagorol. Mae mynediad da i’r safle a bydd yn cael ei ddylunio i ymateb i gyfyngiadau amgylcheddol lleol.

Gan fod disgwyl i allbwn y prosiect fod yn fwy na 10MW, bydd y prosiect yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) a bydd yn cael ei bennu gan Weinidogion Cymru, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymgyngoreion statudol allweddol fel yr awdurdodau cynllunio.

Bydd y Cais yn cael ei weinyddu a’i archwilio gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), sy’n rhan o Lywodraeth Cymru, gyda’r disgwyliad y bydd yn barod i’w gyflwyno ddiwedd 2024.

Pe bai’n cael ei gymeradwyo, gallai’r elfen wynt yn unig gynhyrchu tua 149,638 awr Mega-Watt (MWh) o drydan y flwyddyn – digon i bweru hyd at 42,644 o gartrefi.1 

Byddai hyn yn arwain at arbedion o hyd at 64,643 tunnell o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn, gan gynorthwyo i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi Cymru i gyrraedd ei tharged o gynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i 100% o’i defnydd trydan blynyddol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.2

Yn ogystal, bydd yn darparu manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau lleol ac i’r rhanbarth ehangach, er enghraifft, drwy gyflogaeth adeiladu a gweithredol a buddsoddiad economaidd hirdymor.

Cynnig y Prosiect

Ynni adnewyddadwy – mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a darparu ynni a gynhyrchir yma yng Nghymru

Yn gefndir i’r cynnig ar gyfer Parc Ynni Mynydd Ty-talwy, mae’r argyfwng hinsawdd, a’r angen i symud i ffynonellau ynni mwy cynaliadwy er mwyn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae digwyddiadau diweddar hefyd wedi canolbwyntio meddyliau pobl ar beryglon gorddibyniaeth ar danwyddau ffosil wedi’u mewnforio, gyda chostau cynyddol nwy yn sbarduno’r cynnydd enfawr mewn biliau ynni.

Gall twf ynni adnewyddadwy diogel a gynhyrchir yma yng Nghymru helpu i inswleiddio Cymru a’r DU rhag unrhyw gynnydd mewn prisiau yn y dyfodol a gwneud cyfraniad allweddol at ddatgarboneiddio gwres, pŵer a thrafnidiaeth.

Gwynt ar y tir a solar yw dwy o’r ffynonellau cynhyrchu trydan o’r newydd rhataf yn y DU, ac maent eisoes yn gwneud cyfraniad pwysig at y gymysgedd adnewyddadwy.

Bydd twf hyn yn y dyfodol yn helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef y dylai 100% o’r holl drydan a gynhyrchir yng Nghymru ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Lleoliad y Safle…

diweddaru 06/12/23

Atgynhyrchwyd o ddata map digidol yr Arolwg Ordnans @ Hawlfraint y Goron 2022. Cedwir pob hawl. Rhif trwydded 0100031673

Ffeithiau a Ffigurau

Llinell Amser Ddangosol

*Nod y Cais Cwmpasu EIA yw ceisio pennu cwmpas a lefel yr wybodaeth y mae angen ei darparu yn adroddiad yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) a fydd yn cyd-fynd â’r Cais DNS.

  1. 2021 – yn parhau

  2. Medi 2023
  3. Tymor yr hydref 2023

  4. Dechrau 2024
  5. gan gynnwys dogfennau cynllunio drafft a Datganiad Amgylcheddol

    Canol/Diwedd 2024
  6. Diwedd 2024

  7. 2025

  8. 2028

Cynnig Cymunedol

Mae Galileo wedi ymrwymo i ddatblygu prosiectau sy’n darparu manteision sylweddol a diriaethol yn lleol ac yn meithrin cysylltiadau cymunedol cryf.

Os bydd yn llwyddiannus, bydd miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario’n lleol gydol oes y prosiect, a bydd swyddi’n cael eu creu o’r newydd a swyddi presennol yn cael eu cefnogi mewn meysydd fel adeiladu a lletygarwch.

Cronfa Cyfoeth Cymunedol

Bydd parc ynni ym Mynydd Ty-talwyn yn gyfle gwirioneddol i adeiladu a chyfrannu at Gronfa Cyfoeth Cymunedol barhaol a chynaliadwy, a fydd o fudd i’r gymuned leol gydol oes y parc ynni a thu hwnt.

Mae Galileo wedi ymrwymo i archwilio, gyda grwpiau a sefydliadau lleol, y ffordd orau o ddosbarthu Cronfa Cyfoeth Cymunedol indecs gysylltiedig am oes weithredol y parc ynni.

Bydd maint y gronfa gymunedol yn seiliedig ar bob MW o’r prosiect cyfan yn darparu incwm gwarantedig o £5,000 y flwyddyn (indecs gysylltiedig).

Rydym yn annog mewnbwn gan aelodau’r gymuned leol ynghylch y mathau o brosiectau lleol yr hoffent eu gweld yn elwa ar y gronfa gyfoeth.

Mae rhai awgrymiadau i’w hystyried isod:

  • Gostyngiadau Ynni Lleol

Mae Galileo yn awyddus i archwilio’r potensial o gynnig gostyngiadau ar filiau ynni ar gyfer yr eiddo hynny mewn cymunedau sydd agosaf at y parc ynni. Byddai hyn o fudd uniongyrchol a diriaethol i bobl sy’n byw ac yn gweithio agosaf at Barc Ynni Mynydd Ty-talwyn, a byddai’n agored i bob adeilad preswyl, busnes a chymunedol.

  • Cronfa Addysg a Hyfforddiant

Er mwyn annog myfyrwyr lleol sydd am ymestyn eu haddysg ond efallai nad oes ganddynt fodd i wneud hynny, gallai Galileo sefydlu cynllun bwrsariaeth fel rhan o’r prosiect. Gan weithio gydag ysgolion lleol, ymarferwyr addysg bellach a sefydliadau perthnasol yng Nghymru, gallai Galileo gefnogi darpar ddysgwyr a’r rhai sydd am ddilyn Prentisiaethau Modern neu ddatblygu sgiliau ar y tir.

Cyd-berchnogaeth Gymunedol

Yn ogystal â’r Gronfa Cyfoeth Cymunedol, bydd hyd at 10% o berchnogaeth y prosiect yn cael ei gynnig i’r gymuned yng nghyffiniau’r datblygiad. Mae gan Galileo brofiad hirdymor o weithio gyda chynghorwyr y llywodraeth ar faterion o’r fath, a all gynorthwyo i ddarparu cyngor a chymorth proffesiynol i’r gymuned leol.

Gellir defnyddio unrhyw elw sy’n deillio o unrhyw gyfran berchnogaeth er budd y gymuned. Yn ogystal, mae ein tîm mewn sefyllfa heb ei hail o ystyried eu bod wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â darparu cydberchnogaeth gymunedol yn llwyddiannus mewn mannau eraill yn y DU.

Cronfa Gymunedol Adeiladu

Bydd Cronfa Gymunedol Adeiladu ar gael i grwpiau a sefydliadau lleol i gyd-fynd â dechrau’r gwaith adeiladu hyd at y pwynt y bydd y parc ynni’n dechrau gweithredu, er mwyn helpu i wrthbwyso unrhyw anghyfleustra a achosir yn ystod y cyfnod adeiladu.

Ymgysylltu â’r Gymuned

Yn Galileo, credwn yn gryf yn yr angen am ddeialog barhaus ynghylch ein prosiectau o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn addo ymgynghori a gwrando’n astud ar farn y cymunedau, gan wneud newidiadau mewn ymateb i’r safbwyntiau hyn lle bo hynny’n bosibl.

Rydym yn croesawu’r cyfle i wrando ar farn pobl leol, a byddwn yn cynnal nifer o arddangosfeydd cyhoeddus i ymgynghori ymhellach â’r gymuned yn ddiweddarach yn 2023.

Os hoffech gopi o’r wybodaeth am yr arddangosfa yn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus neu os hoffech siarad ag un o’n tîm, gallwch e-bostio tîm y prosiect drwy gysylltu â mtt@galileoenergy.uk, ein ffonio ni ar 0330 363 6229 neu gysylltu drwy’r wefan hon.

Pe bai’n well gennych chi ysgrifennu atom, gallwch anfon unrhyw ohebiaeth, heb unrhyw stamp na chyfeiriad ychwanegol, at: 

Rhadbost
MYNYDD TY-TALWYN

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer diweddariadau neu fel busnes lleol os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfleoedd pellach.

Rhagor o wybodaeth

I drafod Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn yn fwy manwl, cysylltwch â ni:

Leslie Walker | Rheolwr Prosiect
E-bost: MTT@galileoenergy.uk
Ffôn: 0330 363 6229
Post: Rhadbost MYNYDD TY-TALWYN
Gwe: www.galileoenergy.uk

Ynglŷn â Galileo

Mae Galileo, a sefydlwyd yn 2020, yn ddatblygwr, perchennog a gweithredwr ynni adnewyddadwy, aml-dechnoleg ar draws Ewrop.

Mae’n gwmni sy’n mynd o nerth i nerth a’i genhadaeth yw cyfrannu’n sylweddol at y dasg o gyflawni targedau lleihau allyriadau byd-eang. Ein nod yw gwneud hyn drwy ddatblygu digon o brosiectau ynni gwyrdd clyfar, effeithlon ac integredig o ansawdd er mwyn sicrhau mai ynni adnewyddadwy yw’r brif ffynhonnell drydan ar gyfer pob defnyddiwr ynni yn Ewrop.

Ar hyn o bryd, mae gan Galileo bortffolio datblygu prosiectau o dros 7000 MW ar draws sawl gwlad Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, Sweden, Sbaen, yr Eidal, yr Almaen, Ffrainc a Gwlad Pwyl. Gyda swyddfa yng Nghaerdydd, mae Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn yn un o’n prosiectau ynni adnewyddadwy newydd sy’n cael eu datblygu ledled Cymru.

Mae ein huwch dîm rheoli yn cynnwys arbenigwyr ynni a buddsoddi blaenllaw sy’n dod â degawdau o brofiad rhyngwladol ar draws mwy na deg ar hugain o farchnadoedd. Mae ein cyllidwyr yn gronfeydd pensiwn a seilwaith hirdymor gydag ôl troed byd-eang, dirnadaeth ryngwladol a meddylfryd cydweithredol.

Cyfeiriadau

1 Cyfrifwyd gan ddefnyddio’r ystadegau diweddaraf gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) sy’n dangos mai defnydd cyfartalog blynyddol aelwydydd domestig yw 3,509kWh (ym mis Rhagfyr 2022, wedi’i ddiweddaru’n flynyddol).

Mae RenewableUK yn cyfrifo nifer y cartrefi a bwerir fel a ganlyn: nifer y Mega-Watiau a osodir, wedi’i luosi gyda ffactor llwyth BEIS a fynegir fel ffracsiwn o 1, wedi’i luosi gyda nifer yr oriau mewn blwyddyn, wedi’i rannu gyda defnydd trydan cyfartalog blynyddol aelwydydd domestig a fynegir mewn MWh.

Mae’r ffactor llwyth yn cael ei gyfrifo gan RenewableUK fel cyfartaledd treigl o’r pum mlynedd diwethaf gan ddefnyddio data (ar sail cyfluniad heb ei newid) o’r Digest of UK Energy Statistics a gyhoeddir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Gan ddefnyddio ystadegau 2017-2021 (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022). Ar gyfer gwynt ar y tir, mae hyn yn ffactor llwyth o 26.28%.

2 Mae RenewableUK yn defnyddio ystadegyn allyriadau “pob tanwydd anadnewyddadwy” BEIS o 432 tunnell o garbon deuocsid fesul GWh o drydan a gyflenwir yn y Digest of UK Energy Statistics (Gorffennaf 2022) Tabl 5.14 (“Estimated carbon dioxide emissions from electricity supplied”). Cyfrifir gostyngiad carbon drwy luosi cyfanswm y trydan a gynhyrchir gan wynt a chan solar y flwyddyn gyda nifer y tunelli o garbon y byddai tanwydd ffosil wedi’i gynhyrchu i gynhyrchu’r un faint o drydan.