Croeso i’n gwefan ar gyfer Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn
Mae Galileo Empower yn datblygu cynigion ar gyfer Parc Ynni Mynydd Ty-talwyn, sydd wedi’i leoli 4km i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr ac 8km i’r dwyrain o Bort Talbot.
Cynhaliwyd ymgynghoriadau cyfnod cynnar ar y cynigion yn Hydref 2023 sydd wedi helpu i lunio fersiwn ddiweddaraf y cynlluniau.
Rydyn ni wedi adolygu ein cynigion yn dilyn adborth gan drigolion lleol ac o ganlyniad i arolygon ac astudiaethau safle parhaus.
Mae’r cynigion bellach yn cynnwys:
- Hyd at 6 tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder i flaen y llafn o 200m;
- Paneli solar ffotofoltäig (PV) wedi’u gosod ar y ddaear; a
- System storio ynni batri (BESS).
Yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at ddatgarboneiddio ein system drydan, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu manteision sylweddol i gymunedau lleol trwy gronfeydd cyfoeth cymunedol, cyflogaeth leol a chyfleoedd busnes, cyfran gymunedol yn y parc ynni a’r cyfle i leihau biliau ynni i’r rhai sy’n byw agosaf at y prosiect.
